Gwahoddodd rheolwr archfarchnad Sainsbury's, Plas Coch, Wrecsam, nifer o Gymry Cymraeg, yn cynnwys Mrs Jones! i gyfarfod i drafod sut i hyrwyddo y defnydd o'r Gymraeg yn yr archfarchnad ac hefyd hybu gwerthu cynnyrch Cymreig. Roedd agwedd bositif y rheolwr Nick tuag at yr iaith wedi gneud argraff ar bawb oedd yno... llongyfarchiadau a diolch iddo.
Ar y llaw arall siomedig oedd agwedd dwy o'r banciau mawr yn Wrecsam sef y Nat West ar HSBC. Chwilio oeddwn i am ffurflenni 'archebion parhaol' neu Standing Orders. Doedd gan y Nat West ddim a doedda nhw ddim yn mynd i gael rai chwaith oherwydd fod yna ddim gofyn amdanynt. Roedd yr HSBC chydig bach a mwy o gydymdeimlad tuag at y galw am wasanaeth Cymraeg, ond eto doedd ganddy nhw ddim ffurflenni 'archebion parhaol' ond mi fuasent yn gyrru rai i fi...gawn ni weld.
Mae hyn yn dystiolaeth bellach bod angen Deddf Iaith newydd ar gyfer cwmniau preifat, mae'r esiamplau yma'n dangos yn glir mae chydig o gwmniau tebyg i Sainsbury's sydd yna, mae'r nifer helaeth yn debycach i Nat West a HSBC. Tydy cynnig gwasanaeth Cymraeg yn wirfoddol ddim yn gweithio...mae angen deddfwriaeth.
Hwyrach fod darllenwyr y blog yma yn cofio ryw 'spat' bach rhwng y fi ag Ian Lucas ynglyn a'i adroddiad blynyddol uniaith Saesneg ag ymateb haerllug yr AS i nghwyn i. Wedyn cychwynais ddeiseb ar wefan y Cynulliad i newid Adran 6 o Deddf yr Iaith fel fod ASau yn dod o dan adain y Ddeddf. Mae Pwyllgor Deisebu y Cynulliad wedi derbyn y ddeiseb ac wedi gofyn am farn gyfreithiol ynglyn a newid Adran 6 a mi fydd yn ol o flaen y Pwyllgor, fis Medi... dwi'n eitha hyderus o lwyddiant.
Bottling it
1 hour ago
