Wednesday, 21 May 2008

Hen Fagi a'i chriw.

Dydy'r Gymru sydd ohoni yn le rhyfedd iawn deudwch... Delwedd tun o'r hen Fagi yn cael ei arddangos ochor yn ochor i Aneurin Bevan yn y Cynulliad...be nesa!! Nifer o aelodau'r Cynulliad yn gwrthwynebu ond mae'r "sosialydd cenedlaethol" Dafydd El yn cefnogi'r arddangosfa!! Yn bersonol dwi'n meddwl y dylsa ni fel Cymru edrych ymlaen a ddim yn ol i ddyddiau drwg 'rhen Fagi a'i chriw. Mae hyn run fatha a rhoi delwedd o Saddam yn ol i fyny yn Baghdad neu Stalin yn Moscow...anhygoel.

2 comments:

plaidwrecsam said...

Tybed ydi'r artist am ein hatgoffa o'r pla Thatcheraidd a wnaeth cymaint o lanast yng Nghymru? Falle fod isio ni gofio'n hanes er mwyn creu'r dyfodol?

Plaid Gwersyllt said...

Lle ti'n cael amser i feddwl mor athronyddol?