Thursday, 13 August 2009

Rhagfarn gwrth Gymreig.

I feddwl ei bod hi'n llai na wsnos ers y Steddfod mae na nifer o esiamplau o ragfarn yn erbyn yr iaith Gymraeg wedi dod i'n sylw yn ddiweddar sef blog Rosemary Ralphs dysgwraig o Wrecsam a oedd allan noson blaen yn y Plas Coch mewn Sesiwn Siarad hefo dysgwyr eraill. Wedyn roedd Liz De Rosa, athrawes Gymraeg yn Wrecsam, mewn tafarn pan gwynodd dwy wraig am ei bod yn siarad Cymraeg; dyma roedd ganddi i ddeud ar Facebook:
Liz DeRosa is astonished that two old women had a problem with us speaking Welsh in a pub in Wales!!
Liz DeRosa is still in disbelief about the attitude of these two women in the pub - who complained that we were speaking Welsh in our own country!!

Mae hynna ar ben Cynghorydd o Wrecsam yn cwyno wrth fy ngwraig yn y Steddfod am y ffaith fod popeth yn Gymraeg a doedd o'n dallt dim...roedd o wedi gwrthod prynu ddim byd yn stondin Rhiannon am fod popeth yn Gymraeg...doh!! A cyn i chi ofyn os mae Tori oedd o; na Lib Dem.

Dwi hefyd wedi gorfod cwyno i Cyngor Sir Wrecsam ynglyn a diffyg darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg er eu bod newydd yru adroddiad i Bwrdd yr Iaith yn canmol gwaith y cyngor gydai darpariaeth.

Mae'n amlwg fod yna dal lot i neud cyn ddaw y Steddfod yma yn 2011.

4 comments:

Corndolly said...

Ydy, mae'n amlwg rŵan, ar ôl i mi ddarllen dy flog, bod 'na lawer o broblemau sy angen eu datrys ynglŷn â siarad a defnyddio'r iaith Cymraeg.

sioden said...

"A cyn i chi ofyn os mae Tori oedd o; na Lib Dem." Wy wedi ffindo bod Lib Dems yn WATH NA NEB ARALL gyda'r iaith. Liberal wir!!

Plaid Gwersyllt said...

Mae Adam Price yn deud rywbeth tebyg ar ei flog.

D Hughes said...

Cynghorydd yn cwyno bod ormod o Gymraeg yn Eisteddfod? Doh! Fel cwyno bod yna ormod o pel droed yn Cwpan y byd, be oedd y boi yn disgwyl??

Anodd credu bod na agweddau warthus debyg i rhain yn 2009. 'Two old women...' yn rhoi cliw bach i chi, mae rhan fwyaf o ddi-gymraeg ddim mor pathetig a hyn diolch i dduw.

Pa hawl oedd gan y ddwy ddynes, ddwy bigots, dweud unrhyw beth? Does dim rhaid i neb amddiffyn neu cyfiawnhau eu hunain siarad Cymraeg yn Cymru na unrhyw wlad arall chwaith.