Tuesday, 24 November 2009

Dyfodol y Glymblaid

Amserol iawn oedd llythyr y Cynghorydd Dyfrig Jones o Gyngor Sir Gwynedd yn y Ddraig Goch yr wythnos diwethaf ma. Penawd uwchben y llythyr yw,'A yw'r gost o gefnogi Llafur yn rhy uchel?' Dyma gwestiwn ryda ni i gyd yn ei ofyn yn dilyn datganiad Rhodri Morgan a Peter Hain bore ma, yn codi cwestiwn ynglyn ag amseriad y refferendwm am fwy o bwerau.

Mae Dyfrig yn cychwyn ei lythyr yn son am y penderfyniad o symud lleoliad posib y carchar o un ochor y Fenai i'r llall gan fod hynny yn "fwy o ddefnydd i ymgyrch fregus Albert Owen" ac aeth ymlaen i ddeud:
Yr hyn sydd yn peri pryder i mi yw ein bod ni yn fodlon rhannu grym gyda'r blaid fydredig, fethedig hon. Yn ein cynhadledd flynyddol, fe glywsom araith wych Adam Price AS, a oedd yn pwysleisio amherthnasedd Llafur i fobol Cymru. Maent yn perthyn i orffennol gwleidyddol Cymru, a gwynt teg ar eu hol. Ond mae'n benblaeth i mi sut y gallwn dreulio cymaint o'n hamser a'n hegni yn gweithio i'w trechu, tra ein bod yn parhau i rannu grym a hwy ym Mae Caerdydd.

Mae rhai yn dadlau bod yn rhaid i ni anrhydeddu'r cytundeb a wnaed wrth ffurfio'r glymblaid. Fy nghwestiwn i yw pam y dylem ni wneud hynny, pan fo Llafur wedi ei dorri dro ar ol tro?...

Peidied neb a chredu fod Cytundeb Cymru'n Un wedi bod yn fethiant. Daeth llawer o bethau cadarnhaol o'i arwyddo a hynny yn bennaf oherwydd ymroddiad Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad Plaid Cymru. Ond does dim gwadu'r ffaith fod ein cefnogaeth driw ni i'r Cynulliad yn cael ei danseilio yn gyson gan agwedd drahaus a hunnanol y Blaid Lafur.

Ddwy flynnedd wedi arwyddo Cytundeb Cymru'n Un, onid yw hi'n bryd i ni ddweud fod y gost o gefnogi'r Blaid Lafur yn fwy o lawer na'r manteision yr ydym ni'n eu hennill i bobl Cymru?


Fel arfer mae Dyfrig yn llygad ei le ac mi gawn ni weld fel eith hi fory pan fydd Peter Hain yn ymweld a'r Senedd. Beth sydd yn amlwg i mi i'w fod y 'berthynas arbennig' rhwn Llafur a'r Blaid yn fwy 'arbennig' i'r Blaid nac ydy o i Lafur!

1 comment:

Anonymous said...

Yn anffodus mae Plaid Cymru yn glwm i benderfyniad budr, llygriedig y Llywodraeth ar sut i rannu arian SCIF. Dydy o ddim i neud hefo strategaeth ranbarthol ond mwy i neud hefo Llanfur ennill Blaenau Gwent a'r Blaid gadw Arfon ag ennill Ynys Mon. Ddim dyna y ffordd i redeg llywodraeth ag i rannu £120 miliwn. Dydy y glymblaid ddim yn gweithredu yn foesol.