Mae
Blog Menai wedi codi cywilydd arnaf gan fy mod ddim yn blogio'n ddigon amal drwy gyfrwng y Gymraeg a dwi'n addo gneud gwell ymdrech (a Marc hefyd!!) yn y dyfodol (ar ol yr etholiad). Dwi hefyd yn gweld pwynt Cai ynglyn a blog dwyiaethog...pam? Os ydy y blog mewn dwy iaith tybed prun mae pobol yn mynd i'w darllen? Dyna y broblem sydd gan
Gwilym Euros ag
Aeron M Jones gyda blogiau gwbwl ddwyiaethog; mae nhw am flogio yn Gymraeg on teimlo yr angen i gyfiethu i gyrraedd cynulleidfa fwy eang.
7 comments:
Ie, pwyntiau teg gan Flog Menai a diolch i chi am ymateb i'r sylwadau. Rwyf innau'n gytuno: pa ddiben bodolaeth y Gymraeg os ydy popeth a ddigwydd trwy ei chyfrwng dim ond yn gyfieithiad (wael yn aml iawn) o'r Saesneg?
Ar lefel mwy sylfaenol, dwi'n credu bod angen edrych ar y syniad o beth yw "Cymru Ddwyieithog". Dwi'n meddwl ei bod hi'n cael ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi penderfyniadau anodd a ffordd o beidio ag ypsetio siaradwyr uniaith Saesneg (h.y.: rhaid i Gymry Cymraeg fod yn ddwyieithog ond mae hi'n iawn i siaradwyr Saesneg anghofio am y Gymraeg - a hyd yn oed iddynt danseilio'r Gymraeg trwy fynnu dwyieithrwydd yn yr ychydig pentrefi lle mae hi yw'r brif iaith o hyd). Beth am anelu at fath arall o Gymru Ddwyieithog: lle mae disgwyl i bawb - fel mater o ddyletswydd sifil - fedru ar ddigon o Gymraeg i allu defnyddio'r iaith mewn sefyllfeydd pob dydd? Ni ddylai hynny ddim fod tu hwnt i gyrraedd ein cyfundrefn addysg dros cyfnod o, dyweder, 10 mlynedd.
Mae hwn yn bwnc uffernol o anodd, yn enwedig mewn ardal lle does na ddim 10% yn siarad Cymraeg yn rhugl (a llai yn ei ddarllen fyswn i'n tybio).
Mae blogio yn wahanol i ddwyieithrwydd "swyddogol" - mympwy ydio. Mae'r blog yma'n euog weithiau o mond trafod materion Cymraeg yn y Gymraeg, fel tysa'r iaith i'w gadw jest i drafod materion diwylliannol. Dydi hyn ddim yn deg ar y di-Gymraeg, sydd efallai am gyfrannu i drafodaethau am ysgolion Cymraeg ac ati.
Y peth calla' fysa blog Cymraeg a blog Saesneg yn trafod gwahanol bethau yn hytrach na chyfieithu slafaidd. Ond sgen i ddim amser i wneud hyn yn iawn!
Y peryg wedyn ydi mai'r Saesneg sy'n cael y blaenoriaeth gan fod cymaint yn fwy o bobol Wrecsam am ddarllen hwnna.
Does na'm ateb neith blesio pawb efo hwn.
Diolch am y sylwadau ond paid a cychwyn fi ar y gyfundrefn addysg!. Mae ysgolion cynradd sector Saesneg yn gneud yn dda iawn y Gymraeg ond unwaith eith y plant i Ysgol Uwchradd KS3 mae faint bynnag o Gymraeg mae'n nhw wedi ei ddysgu yn y cynradd wedi ei golli bron i gyd. Dyma lle mae'r broblem.
Ie, mae ddwyieithrwydd yn gyffredinol yn bwnc ar wahan ac, wrth gwrs, yn un anodd ac dwi am un yn glir nad oes modd datblygu'r cysyniad o ddwyieithrwydd ehangach heb gefnogaeth ac yn wir brwdfrydedd trwch y boblogaeth i adfywio'r iaith. Wrth gwrs os nad ydy byd "go iawn" yr oedolion o ddifri ynghylch y Gymraeg go brin y gallwn ni ddisgwyl i ddisgyblion ysgol ac, yn wir, y gyfundren addysg fod. Ond ie, pwnc arall yw hwnna a fy mwynt am y tro yw rhaid meddwl bob tro beth yw oblygiadau'r syniad o ddwyieithrwydd a'r perygol i fywyd y diwylliant Cymraeg. Dyna'n union be' 'dych chi a Blog Menai'n ei wneud yng nghyd-destun y byd blogio a diolch am hynny!
Ond fel mae Efrogwr yn deud mae dwyiaethrwydd fwy i neud hefo ni yn cyfathrebu yn Saesneg, na'r di Gymraeg ymdrechu tuag at ddwyiaethrwydd. Os yda ni yn mynd i gario mlaen blogio yn Saesneg i blesio, does yna ddim pwrpas i ddwyiaethrwydd.
'Dwi'n credu bod cynghorwyr (Plaid) Sir Gaerfyrddin gyda dau flog - y naill yn y Saesneg a'r llall yn y Gymraeg.
I fod yn onest dwi'n credu dylsai blogiau gwleidyddol fel hwn fod yn ddwyieithog fel arwydd o barch i'r ddwy iaith. Dwi'm yn credu bydd yn gelyniaethu unrhyw ddarllenwyr boed yn siaradwyr Cymraeg neu'n siaradwyr Saesneg cyn belled a'i fod yn glir bod y blog a'r blogiau yn ddwyieithog felly bod rhywun nad ydynt yn gallu deall Cymraeg ddim yn troi i ffwrdd heb ddeall. Does dim angen iddo fod yn gyfieithiad ond trafodaeth ar bynciau tebyg yn y ddwyiaith.
Dwi'n bryderus o ddefnyddio ffigwr fel 10% fel cyfiawnhad, petai'r Blaid Lafur e.e. a ellir dibynu arno'n Wrecsam i anwybyddu'r iaith ar eu deunydd etholiadol yn defnyddio'r esgus hwn yna bydd lle teilwng i'w beirniadu.
Yn anffodus mae'r Blaid yn genedlaethol yn euog o ymddangos yn rhy aml fel ei bod yn cymryd yr iaith a'i charedigion yn ganiataol e.e ar Facebook.
Siôn
Post a Comment