Dyma be a ddywed y Cynulliad ar y mater yn eu Cod Derbyn i Ysgolion (Para 2.54):
Rhaid i awdurdodau derbyn BEIDIO a chynnwys mynychu'r feithrinfa...yn eu meini prawf ar gyfer gor-alw.
Mae angen rhoi pwysau ar y Cynulliad i newid eu polisi yn y fan hyn i ffafrio y plant yma sydd ar gallu i siarad Cymraeg. Pam nad ydym yn gallu defnyddio y gallu i siarad Cymraeg fel blaenoriaeth i blant gael ei derbyn i Ysgol Gymraeg?
Mae ysgolion ffydd yn gallu rhoi meini prawf ar gyfer gor-alw sydd yn seiliedig ar ffydd y plentyn. Dyma a ddywed Cod y Cynulliad,
"Gall ysgolion sydd wedi ei dynodi'n rai crefyddol eu cymeriad roi blaenoriaeth yn ei trefniadau derbyn i aelodau ffydd neuenwad penodol."
Ydy hyn yn cyd fynd a deddfwriaeth gydraddoldeb? Gellir blaenoriaethu o ran ffydd ond ddim o ran iaith?
1 comments:
Cytuno i raddau er mae bygythiad wrth wneud hyn bod Cynghorau yn gallu ei ddefnyddio i barhau i lechu oddi wrth ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg drwy 'chwynu' y plant ar sail ieithyddol.
Os am gymryd cam fel hwn byddwn hefyd am weld y Cynulliad yn gosod mwy o ymrwymiad cyfreithiol ar Gynghorau, yn enwedig rhai sydd wedi cynnal arolwg o'r galw fel gwnaeth Wrecsam i osod proses cadarn yn ei le i ymateb i'r galw. Efallai bydd angen gosod bygythiad o ymyraeth uniongyrchol os nad oes prawf bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o fewn cyfnod penodol.
Siôn
Post a Comment