Sunday, 23 May 2010

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Yn Ebrill 2010 cyhoeddodd y Gweinidog Dros Addysg Leighton Andrews, Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, gwnaeth hynny yn Gymraeg mwn datganiad i'r Cynulliad.

Ar yr 11ed o Fai cyhoeddodd y Cynghorydd Marc Jones y blog yma yn dilyn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol Wrecsam lle roedd Cynghorwyr Llafur yn gwrthwynebu cais i fynd am ysgol Gymraeg newydd yn Gwersyllt gan gynnig y dylse y Cyngor fynd am ysgol ddwyiaethog mewn ysgol yn y sector Saesneg sef ysgol Gynradd Sirol Gwersyllt.

Mae yna farn unfrydol fod ysgolion dwyiethog mewn ardaloedd di Gymraeg ddim yn gweithio a bod angen trochi plentyn mewn gwersi Cymraeg o leiaf 70% o'r amser i'r blentyn fod yn rhugl yn y Gymraeg; neith hynny byth ddigwydd mewn ysgolion sector Saesneg yn Wrecsam.

Dyma a ddywed y strategaeth am y gwahaniaeth rhwng addys cyfrwng Cymraeg ag addysg ddwyiaethog:

Fel arfer bydd addysg cyfrwng Cymraeg rhwng tair neu bedair oed a thua saith oed yn golygu sicrhau darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Rhwng saith ac un ar ddeg oed (Cyfnod Allweddol 2 o’r cwricwlwm cenedlaethol), caiff sgiliau Saesneg eu datblygu hefyd drwy ddefnydd priodol o’r iaith fel pwnc a chyfrwng. Un o’r ystyriaethau allweddol yw natur y cydbwysedd ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, a dwyster y mewnbwn cyfrwng Cymraeg sydd ei angen er mwyn i ddysgwyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg dros amser. Derbynnir yn gyffredinol y dylai o leiaf tua 70% o amser y cwricwlwm fod drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i ddysgwyr feistroli’r iaith yn ddigon cadarn i’w galluogi i’w defnyddio mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau yn hyderus ac yn rhugl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn derbyn yr egwyddor ganolog hon ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd ac uwchradd. Mae diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007) yn ategu’r egwyddor
hon.

Defnyddir y term ’darpariaeth ddwyieithog’ i gyfeirio at amrywiaeth eang o leoliadau addysgu a dysgu lle y defnyddir y Gymraeg i raddau gwahanol wrth gyflwyno’r ddarpariaeth. Felly, gall ’ysgolion dwyieithog’ gynnwys yr ysgolion hynny lle cyflwynir cyfran helaeth o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg, yr ysgolion hynny lle
ceir dwy ffrwd – ffrwd cyfrwng Cymraeg a ffrwd cyfrwng Saesneg – a addysgir ar wahân, a’r ysgolion hynny lle yr addysgir dim ond ychydig elfennau o’r cwricwlwm neu yr addysgir nifer fach yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn colegau addysg bellach yn benodol, gall darpariaeth ddwyieithog gyfeirio at sefyllfaoedd lle yr addysgir
dosbarthiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith, neu lle mae cyrsiau yn cynnwys modiwlau cyfrwng Cymraeg.

Bydd deilliannau ieithyddol y mathau gwahanol hyn o ddarpariaeth yn amrywio’n sylweddol. Os yw dysgwr o gefndir Cymraeg yn mynychu ysgol ddwyieithog, gall cwricwlwm cytbwys drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg fod yn effeithiol o ran sicrhau rhuglder yn y ddwy iaith. Dyma’r achos mewn rhai ardaloedd
yng Nghymru. Fodd bynnag, os nad yw sgiliau iaith dysgwyr yn y Gymraeg yn cael eu hatgyfnerthu gan y teulu neu’r gymuned, nid ydynt yn debygol o fod yn hollol rugl a hyderus yn y Gymraeg pan fyddant yn dysgu mewn lleoliad dwyieithog.
Felly, nid yw darpariaeth ddwyieithog bob amser yn sicrhau bod unigolyn yn datblygu i fod
yn siaradwr dwyieithog. Mae’n bwysig bod datblygiadau polisi yn cael eu cynllunio ar sail dealltwriaeth fanwl o’r amrywiaeth eang o ddeilliannau a gaiff dysgwyr drwy ddarpariaeth ddwyieithog. Dylai lleoliadau dwyieithog geisio darparu cymaint o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ag y bo angen er mwyn i ddysgwyr fod yn rhugl
yn y ddwy iaith.


Mae angen i'r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn fwy cyson ac mi ddylai Leighton Andrews ac eraill egluro polisi Cymru'n Un ar addysg Gymraeg i'w grwpiau Llafur ar gynghorau Wrecsam, Caerdydd ag Abertawe. Ar hyn o bryd mae ganddo ni y sefyllfa o'r Blaid Lafur yn lleol yn gwrthwynebu polisiau eu Plaid ei hunain ar lefel cenedlaethol.

No comments: