Dyma fy ymateb i'r ymgynghoriad:
Yn gyntaf oll, gai ddeud mae yn ddiweddar sylweddolais fod y cynllun yma allan i ymgynghoriad. Doeddwn yn gwybod dim amdano na’r cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam ac mae hynny yn wir am fy nghyfoedion sydd yn ymwneud a diddordeb mewn hybu yr iaith a derbyn gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol.
Mi ryda chi’n son y dylai y Gymraeg ar Saesneg i fod yn gyfartal ond ffoniwch unryw swyddfa nyrs y gymuned yn ardal Wrecsam a glywch yr un gair o Gymraeg ar y neges ffon. Hefyd sut ellwch ‘ymrwymo i’r egwyddor’ ac wedyn deud ‘pan fo hynny yn bosib.’ Fe fydd pawb yn defnyddio’r esgus o fethu ddarparu gwasanaeth Cymraeg trwy ddeud, bod hi’n “amhosib gneud hynny”.
Yn ail gai ofyn faint yn union o Gymru Cymraeg sydd ar y Fforwm Iaith yma, oes na rywyn sydd yn annibynnol i’r BI? Mi ddylsa rywyn o Fwrdd yr Iaith fod yn aelod o’r Fforwm yma?
Mi rydach yn son am hyrwyddo’r iaith ond ddim yn deud yn union faint o staff rydach am ei hyfforddi i Lefel 1, 2, 3 ayb fel targedau. Hwyrach fod angen gweld sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn trefnu ei hyfforddiant drwy gysylltu a Meic Rayment.
I fod yn onest dogfen hefo dyheadau uchelgeisiol iawn ydy hon ond mae o’n teimlo’n yn fwy fwy fel ryw ‘dic mewn bocs’ na rywbeth mae’r BI a gwir ddiddordeb yn ei hyrwyddo.
Gawn ni weld os neith petha wella yn Wrecsam on teimlo rydw i y byddaf yn dy ebostio yn amal iawn gyda'r problemau sylweddol sydd yn Wrecsam mewn darparu gwasanaeth cyfartal yn y Gymraeg a Saesneg.
Mae ganddoch dan ddydd Mercher 27ain o Fai i ymateb i'r ymgynghoriad drwy ebostio
eleri.hughes@wales.nhs.uk
1 comments:
Wedi derbyn ebost A galwad ffon bore ma gan y Bwrdd Iechyd!
Post a Comment