"Ni all ladd ennill heddwch" - dyna eiriau'r diweddar Dic Jones gafodd eu dyfynnu gan yr archdderwydd newydd Jim Parc Nest mewn araith rymus i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam heddiw.
Aeth Jim ati yn ddi-flewyn ar dafod i darannu yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Irac a'r llanast presennol yn Affganistan. Aeth ymlaen i longyfarch Wrecsam am fynd ati i ehangu addysg Gymraeg - 200 o blant newydd yn cychwyn ar eu haddysg Gymraeg yn y sir fis Medi - ac yna crybwyll yr her sy'n wynebu cymunedau'r ffin.
Roedd hi'n faniffesto wleidyddol gref wnaeth son am yr angen i "fod yn beryglus". Gobeithio'n fawr y cawn weld "maniffesto'r bardd" mewn print yn fuan.
DIWEDDARIAD: Dyma fo'r "maniffesto"
1 comments:
Araith i'n hysbrydioli fel cenedl, mae angen cyhoeddi araith Jim. Mae be ddeudodd Jim yn faniffesto i ni yn Wrecsam sydd yn caru ein hiaith a'n hunaniaeth.
Post a Comment