Saturday, 18 September 2010
Dysgu gwers i Peter Black.
Braf di gweld fod y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Brydeinig wedi gwylltio Peter Black drwy basio cynnig yn ymwneud a Chymru er nad oedd ganddynt y pwer i neud dim yn ymwneud a Chymru oherwydd datganoli. Mae Peter yn cyhuddo ei gyd Ryddfrydwyr o fethu deall datganoli; dwi ddim yn siwr iawn lle mae Peter wedi bod ond mae'r ffaith fod pleidiau Llundain ddim yn dallt datganoli wedi bod yn gwbwl amlwg i gefnogwyr Plaid Cymru ers nifer o flynyddoedd. Croeso i'r byd lle mae pobol go iawn yn byw Peter, hwyrach y gnei di a dy dim bach o Ryddfrydwyr Democrataidd Cymreig fwy o ymdrech rwan i ennill refferendwm.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
0 comments:
Post a Comment