Dwi hefyd wedi gneud addewid i neud mwy o ddefnydd o'r iaith wrth flogio, defnyddio Gwyneblyfr neu Gweplyfr ac hefyd drwy drydar (@arfonj).
Yn lle blog gwleidyddol penderfynais sgwennu blog diwylliannol ond hefo neges gwleidyddol, sef ail dynnu eich sylw at eiriau T H Parry Williams;
Hon
Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap
Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.
A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi
 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd.
Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.
Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.
A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll.
Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,
Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.
Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;
Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Ydy neges cryf y gerdd yma yr un mor berthnasol heddiw ac roedd hi pan sgwennodd T H hi hanner can mlynedd yn ol? Ar drothwy refferendwm arall pwy ydy gwir elynion datblygiad ein hiaith a'n diwylliant?
3 comments:
Ew, dyna 'di deud yn de! Ac ydi, mae'r neges yn sicr mor berthnasol heddiw ag erioed. Fy hoff gerdd i sy'n hyn o lawer ydi 'Toriad y Dydd' gan John Jones, sgwennwyd dros 200 o flynyddoedd yn ôl am y Gymraeg sy'n gorffen:
Meithrinodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy,
Cadd drigo ar eu tafod fyth
Ac yn eu calon hwy,
Gogoniant mwy gaiff eto
A pharch yng Nghymru fydd,
Mi welaf ddisglair olau 'mlaen
A dyma doriad dydd!
Ac os mae hynny'n wir heddiw, rhaid bod 'Hon' hefyd!
Diolch am y cyfraniad...gwych!
Does dim dwy waith fod Hon yn berthnasol yn arbennig yng ngwyneb ymosodiadau gan fobol fel Stonemason a David TC DAvies.
Englyn gan Moi Parry:
Cymru’r Pleidiau Seisnig.
Pery dwndwr eu prydeindod beunydd
Yn boen a diflastod;
Hen gŵn bach y gwn eu bod
Yn wacter o Gymreictod.
Post a Comment