Diddorol iawn oedd darllen Blog Menai ac ystadegau diweithdra Cymru ar lefel awdurdodau lleol. Roeddwn wedi synnu braidd fod canran diweithdra Ynys Mon mor isel ar 3.9%; gyda 13 o Awdurdodau Lleol Cymru hefo canran uwch o'r boblogaeth yn ddi-waith.
Mae'r Derwydd o Ynys Mon wedi ceisio'n perswadio dros y misoedd diwetha am dlodi a'r anfantais ar diweithdra arswyd sydd ar yr ynys. Tydy yr ystadegau diweithdra ddim yn cefnogi be mae'r Derwydd yn ei ddeud, a tybed be fasa ganddo fo i ddeud am y sefyllfa yn Blaenau Gwent lle mae diweithdra yn 6.3%. Tydy blog y Derwydd yn gneud dim ond cyhoeddi gwybodaeth sydd yn gefnogol i'r Ceidwadwyr (a Peter Rogers) ac yn lladd ar Blaid Cymru a Ieuan Wyn Jones yn arbennig. Mae angen trin blog y Derwydd hefo'r dirmyg mae o'n haeddu.
1 comments:
Wel, wel, mae'r Derwydd wedi dod allan...ar syndod ydy mae o ydy darpar ymgeisydd y Toriad yn Ynys Mon dros y Cynulliad - Paul Williams.
(Pwy? yn union!)
Post a Comment