Ar y 23ain o Ragfyr, cyhoeddodd S4C ei
ffigyrau gwylio sydd yn dangos cynnydd mawr yn nifer y gwylwyr gyda miliwn o fobol wedi edrych ar raglenni'r sianel yn y mis diwethaf. Ond fel dwi wedi dadlau o'r blaen mae gen i broblem gyda ffordd mae nifer gwylwyr yn cael ei mesur a dwi wedi blogio ar y mater
yma ac
yma. Faswn ni'n gobeithio cael rywfaint o gadarnhad gan S4C fod y ffigyrau yma yn fanwl gywir ond dwi ddim yn meddwl y gallent roi y cadarnhad yny. Be sydd angen ydy ymchwiliad i'r ffordd mae BARB yn casglu y wybodaeth.
0 comments:
Post a Comment