Wednesday, 23 February 2011

Gwaseidd-dra S4C

Mae'n amlwg fod y BBC wedi dechrau dylanwadu ar S4C yn barod neu sut arall fasa ni'n cael y datganiad hurt yma ynglyn a rhaglenni y Gwanwyn:
Gyda phriodas y flwyddyn yn digwydd ddydd Gwener 29 Ebrill, bydd S4C yn dathlu gyda’r Tywysog William a Kate Middleton mewn rhaglen arbennig Y Briodas Frenhinol.

Dydy o ddim yn ddigon y byddwn yn cael rhaglen ar ol rhaglen hyd syrffed ar bob blydi sianel arall heb gael o ar S4C hefyd?. Yn amlwg dwi wedi gneud y penderfyniad iawn o fynd i Dulyn am y diwrnod, hwyrach nai aros am yr wsnos i gael gwared o flas drwg gwaseidd-dra y sefydliadau 'Cymraeg newydd.' Tybed os ydy Bwrdd S4C yn gwybod am hyn?

No comments: