Tybed be neith Alwyn tro yma? Ia hwn di'r ail dro iddo adael y Blaid Lafur. Y tro cyntaf oedd iddo fynd hefo John Marek i ymuno a Chymru Ymlaen tybed eith o step fach nesa ac ymuno hefo'i hen ffrind Dr Marek eto?
Wrth ddarllen wal Gweplyfr Alwyn mae ddigon hawdd gweld ei fod yn eitha chwerw am y sefyllfa, a dyma be a ddwed am ei ddaliadau gwleidyddol,
"Centre left socialist - Labour once upon a time...not anymore...the 'fairies' have taken over....fair...ugh! ugh! what's that?"
Mae rhaid teimlo chydig yn sori dros y Blaid Lafur Etholaeth Arfon, ddim yn unig mae raid chwilio am ymgeisydd newydd ond mae hefyd angen chwilio am fwy o arian ar ol gwastraffu cannoedd o bunnau yn argraffu miloedd o daflenni etholiadol Alwyn Humphreys!
Amseriad gwych Alwyn! Tybed be neith Tecwyn ar holl bapur yna?
7 comments:
Arfon, - ti'n cymeryd llawer gormod yn ganiataol? Cannoedd o bunnoedd am argraffu? Na, anghywir.Dylanwad y wraig hynaws o'r Rhos? Ystyriaist ti fod dy argymhelliad fod ganddi rym, bellach yn frawddeg hanesyddol hwyrach? Pam imi dorri'r cysylltiad? Y fi a Marek? - Tud 'laen - mae na fwy o dir commin rhyngddot ti a fo, na fi a fo? Mae'r siawns i mi ei gefnogi 100% yr un ac i Marc wneud!!Glywaist ti gyfieithiad Tudur Owen am 'Jelly fish'? Mae na Jelly fish arbennig yn byw yn Rhos ,reit bell o'r mor? Mae'r cyfieithiad union mor addas! Gobeithio na fydd fyth iti ei brofi yn bersonnol, - ond mae brad yn beth anfaddeuol. Yn enwedig os oes gennyt egwyddor? Mae'n deimlad uffernol darganfod fod rhywbeth y credaist yno mor ddi-ffuant, bellach yn seiliedig ar gelwyddgwn a putriscene pur! Ti'n gywir, - mae yn creu chwerwder!
Gyrra y llythyr ymddiswyddo a mi nai postio fo yn y fan hyn. Ymddiswyddiad neu diarddel oedd y canlyniad ar diwedd y dydd.
Ydi dylanwad Stella'n mynd mor bell ac Aberconwy?
http://thoughtsofoscar.blogspot.com/2011/02/ronnie.html
Tybed ydy Alwyn isio ymuno a Phlaid Cymru...a tybed ydy Plaid Cymru isio shinach mor dan din ag Alwyn?
Bechod fod Alwyn wedi ei hel o'r Blaid Lafur - roedd gen i daflen yn lladd ar y Blaid Lafur oedd yn defnyddio cwots o daflen Alwyn yn 2005.
Mae Alwyn wedi deud petha cas iawn am yr ysgol Gymraeg newydd yn Gwersyllt hefyd. Does bosib fod Plaid Cymru ddigon gwirion i dderbyn person for ddau wynebog ac an-ddibenadwy ag Alwyn (Champagne Socialist) arall.
Stori Golwg 360 yma:
http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/13136-ymgeisydd-arfon-wedi-gadael-llafur
A mae'r blog yn cael mensh!`
Post a Comment