Thursday, 19 May 2011

Gwleidyddiaeth y gwter

Neithiwr etholwyd Ron Davies a Dave Bithell yn arweinydd a dirprwy arweinydd newydd Cyngor Wrecsam. Llongyfarchiadau mawr i'r tim newydd.
Cafodd Ron wrthwynebiad gan Bob Dutton (aelod arall o'r glymblaid sy'n rhedeg Wrecsam ar y funud) a'i drechu o 25-20. Yr un oedd y bleidlais rhwng Dave a'i wrthwynebydd Mark Pritchard.
Y peth mwya' annisgwyl oedd fod Dutton a Pritchard yn fodlon ceisio ennill cefnogaeth munud ola'r Blaid Lafur - sy'n wrthblaid yn Wrecsam - er mwyn cipio grym o fewn y glymblaid. A hynny ar ol i un ohonynt ddadlau'n gyhoeddus nos Lun nad oedd yn un am "grubby deals".
Aeth uchelgais personol yn drech na'r ddau ohonyn nhw - byddai buddugoliaeth i'r ddau wedi gweld y glymblaid bresennol yn chwalu'n rhacs ar ol llwyddo i gyd-dynnu am dair blynedd.

2 comments:

nia lloyd said...

Dangos Dutton a Pritchard i fyny fel dynion diegwyddor a hunan geisiol. Llwyr yn haeddu eu methiant.

Plaid Gwersyllt said...

Nia - Clywch, clywch!