Sunday, 15 May 2011

Y Dyfodol

Mae na dros wythnos wedi mynd heibio ers y canlyniad siomedig i Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad a mae'r ymchwiliad i be ddigwyddodd wedi cychwyn gyda Pwyllgor Gwaith y Blaid yn Aberystwyth ddoe. Dydw i ddim am son am be aeth yn ei flaen y y PG ond digon i'w dweud, nad oedd yna 'dollti gwaed' na ffraeo ond cafodd pawb y cyfle i ddatgan ei farn ac mi ryda ni hefo cynlluniau mewn llaw i beth aeth o'i le a be da ni'n mynd i neud amdano.

Pwrpas y blog yma ydy rhoi ryw fath o berspectif o sut rydw i fel Cynhgorydd Sir wedi gweld petha'n datblygu'n lleol ac yn genedlaethol dros y tair blynedd diwethaf ma.

Cefais i fy ethol yn 2008, ar yr un amser y bu daeargryn gwleidyddol yng Ngwynedd gyda ethol tri ar ddeg o Gynghorwyr Llais Gwynedd mewn ymatebiad i bolisi Plaid Cymru yng Ngwynedd o gau ysgolion bach (Cymreig) cefn gwlad y sir. Mae gen i gryn gydymdeimlad a phobol ardaloedd Dysynni, Penllyn, Edeyrnion a Llangwm sydd am amddiffyn ei cymunedau Cymraeg a mae Plaid Cymru (sydd a'i gwreiddiau yn yr ardaloedd yny), i weld yn benderfynol o danseilio y cymunedau drwy gau ei hysgolion.

Pa blaid sydd yn mynd allan o'i ffordd i danseilio ei pleidlais grai ei hunan?. Dyna y broblem gynta!

Er bod yna bwysa o dy y llywodraeth yng Nghaerdydd i leihau y nifer o lefydd gwag mewn ysgolion, mae hi'n bosib anwybyddu hynny a cadw'r ysgolion yn agored drwy ffederaleiddio fel y gwnaethon ni gyda ysgolion Dyffryn Ceiriog, lle mae tair ysgol yn dal i fodoli er mae ysgol gymunedol oedd y cynllun gwreiddiol...rhywbeth i'w wneud a gwrando ar y gymuned leol! Mae gwir angen i ni ail feddwl ein strategaeth ar adrefnu addysg.

Mae hefyd angen i Blaid Cymru ofyn pwy yn union ydym a lle da ni am fynd? Unwaith ryda ni wedi penderfyny hynny, gallwn ail strwythuro ag adennill ein cefnogaeth grai yng Ngwynedd, yn arbenig yn Nwyfor Meirionnydd yn dilyn llwyddiant Louise Hughes...mae angen cael y bobol yma yn ol yng nghorlan Plaid Cymru.

Yn ail, mae rhaid edrych ar lwyddiant Plaid Cymru mewn llywodraeth glymbleidiol. Mae na lawer iawn o fewn y Blaid (neu y bubble) yn llawn o ryw hunan glodfori a llongyfarch ei gilydd ar lwyddiant maniffesto 2007 a chytundeb Cymru'n Un, a does dim dwy waith fod y Blaid wedi bod yn llwyddianus cyn belled a fod y refferendwm, comisiwn Holtham, Strategaeth Addysg Gymraeg ayb yn y cwestiwn. Ond ar y llaw arall doeddem ni yn y Gogledd Dwyrain ddim yn cael llawer iawn o gwestiynau ar y pynciau yny...sori sticio pin yn y bubble!

Be roeddem yn ei gael oedd cwestiynau ar stepan ddrws lle roeddem yn ceisio amddiffyn record y glymblaid ym myd, addysg, iechyd, tren cyflym a record economaidd, yng ngwyneb gwasg elyniaethus a beirniadaeth lem o dy y Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol...o a pheidio anghofio yr awyren bondigrybwyll.

I fod yn onest doedd Plaid Cymru yn genedlaethol na'r gweinidogion fawr o help i ni i ateb y cyhuddiadau,a mae rhaid derbyn mae 'chydig iawn sydd ym myd addysg a iechyd i'w glodfori ar hyn o bryd a mae hynny wedi effeithio ar bleidlais Plaid Cymru yn y gogledd. Costiodd methiant y Blaid i ymateb yn effeithiol i feirniadaeth ynglyn ag addysg ag iechyd yn ddrud i ymgeisyddion y Gogledd.

Mae gwir angen mwy o gysylltiad a chyfathrebu rhwng aelodau y Cynulliad a Chynghorwyr Plaid Cymru ar lawr gwlad.

Mae na nifer o resymau eraill pam fod Plaid Cymru wedi gneud mor wael ond mae rhai o'r dadleuon yny wedi ei crybwyll gan flogwyr eraill yn barod.

No comments: