Wednesday, 6 July 2011

Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint dan fygythiad

Mae dyfodol ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint o dan fygythiad.

Allan o bump o ysgolion addysg Gymraeg yn y sir mae dau o dan fygythiad uniongyrchol (gydag un, Ysgol Terrig yn Nhreuddyn, o dan fygythiad yn syth); gyda dyfodol tymor hir yr ysgolion eraill heb fod yn sicr.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu i dorri costau drwy uno neu ffedaraleiddio ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda ysgolion cyfrwng Saesneg, gan roi eu gweledigaeth – fel mannau ble y dysgir yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig mewn perygl.

Mae rhieni Sir y Fflint (yn Saesneg ac yn Gymraeg), a chynrychiolwyr o holl ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir wedi ffurfio grwp ymgyrchu (SYFFLAG – Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg) i ymladd dros ddarpariaeth addysg cyfrwng y Gymraeg yn y sir.

Bydd SYFFLAG yn gweithio yn agos gyda mudiadau iaith Gymraeg eraill (RHAG a Menter Iaith); a gyda’n gilydd byddwn yn ymgyrchu i geisio newid polisi y Cyngor tuag at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae polisi Sir y Fflint yn uniongyrchol wrth i’w ymchwil ei hun, sydd yn dangos heb amheuaeth fod yna alw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir. Dangosodd yr ymchwil hefyd fod y galw yn debygol i dyfu os y byddai mwy o lefydd yn cael eu darparu.

Y mae hefyd yn mynd yn erbyn strategath Llywodraeth Cymru. Mae dogfen y Cynulliad yn Ebrill 2010 (Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg) yn cefnogi datblygiad dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.

Y mae yn dweud y dylai awdurdodau lleol esbonio sut y byddant yn darparu lleoedd digonol a phriodol i blant mae eu rhieni/gofalwyr yn dymuno iddynt gael addysg cyfrwng Cymraeg oherwydd addysg cyfrwng Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar, gyda dilyniant ieithyddol cadarn drwy bob cyfnod addysg, sy’n cynnig yr amodau gorau ar gyfer meithrin dinasyddion dwyieithog y dyfodol.

Y mae strategaeth y Cynulliad yn glir; os nad yw’r awdurdod lleol yn cydweithredu, ac os nad ydynt yn ymateb i alw gan rhienni, yna bydd camau pellach, gan gynnwys deddfwriaeth, yn cael eu ystyried.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dewis i anwybyddu y Cynulliad a’i hymchwil eu hun. Gan ddechrau gyda Ysgol Terrig, y maent yn bwriadu ffedaraleiddio neu amalgameiddio ysgolion cyfrwng y Gymraeg ar draws y sir gyda ysgolion eraill yn cynnwys ysgolion ble Saesneg yw y brif gyfrwng. Y mae yn erbyn dymuniadau athrawon, llywodraethwyr ac yn erbyn dymuniadau rhieni – sydd wedi dewis i’w plant i dderbyn eu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os bydd yr ysgolion cyfrwng y Gymraeg yn uno neu yn ffedaraleiddio gyda ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd nodweddion neilltuol addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei golli. Nid dyma weledigaeth y Cynulliad, yr ysgolion nac y rhieni.

Mae gan Cynghorau Cymreig ddyletswydd i hyrwyddo diwylliant Cymreig a Chymraeg.
Fel dywedir strategaeth y Cynulliad -
Gweledigaeth Iaith Pawb yn 2003 oedd creu Cymru dwyieithog, hynny yw, Cymru ble mae ‘pobl ddewis byw eu bywydau naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu’r ddwy iaith a lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder i ni i gyd’.


Yr hyn a ofynnir gan SYFFLAG yw fod Cyngor Sir y Fflint yn rhannu y weledigaeth hon- ac eu bod yn deall, hyrwyddo a chefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg.

5 comments:

Cymro i'r Carn said...

Clywch Clywch, mae hyn yn warthus, gai fod mor hy a gofyn pa blaid sydd ag rheolaeth dros gyngor Sir y Fflint? Ai'r Blaid Lafur yw hi? Ac os felly does fawr o syndod maent wedi cadw agwedd amwys tuag at addysg Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin ( Y FRO GYMRAEG) wedi does fawr o obaith tu allan i'r fro.

Plaid Whitegate said...

Clymblaid o bawb ond Llafur sy'n rhedeg y cyngor. Y cynghorydd sydd a chyfrifoldeb dros addysg Gymraeg ydi Tori o'r enw Nigel Steel-Mortimer. Fawr ddim cydymdeimlad at yr iaith mae'n debyg.
Mae'r trafferthion yma wedi codi o lefelau o anwybodaeth a diffyg diddordeb yn nyfodol yr iaith sy'n nodweddiadol o mindset llawer o gynghorwyr.
Dyma pam, mentraf, fod angen llawer mwy o Bleidwyr ar y cyngor y tro nesa - un dyn bach sydd yna ar hyn o bryd. Fysa'r un sefyllfa byth wedi codi efo criw da o gynghorwyr yn ymladd cornel y Gymraeg.

Plaid Gwersyllt said...

Does yna ddim dyfodol i addysg Gymraeg yn sir Fflint o dan arweinyddiaeth pobol fel Steel-Mortimer a Ian Budd y Prif Swyddog Addysg. Does gen i ddim cof o Sir y Fflint gario allan ymchwiliad i'r galw dros addysg Gymraeg. Falch fod cefnogwyr yr iaith wedi gweld y perygl...or diwedd! Gobeithio ei bod hi ddim yn rhy hwyr!

Plaid Gwersyllt said...

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cael ei reoli gan glymblaid ansicir o Annibynnol, Tories a hwyrach Lib Dems. Llafur yw'r wrthblaid ffurfiol. Yn ddiwddar mae yna grwp Annibynnol o dan arwainyddiaeth Patrick Heesom wedi gadael y glymblaid yn gadael Arweinydd y Cyngor, Arnold Wooley i redeg llywodraeth leiafrifol. Mae y ddwy wrthblaid (Heesom) ac arweinnydd Llafur Aaron Shotton wedi methu cyfuno i gario pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Wooley. Dydy sefyllfa reoleiddio Cyngor Sir Fflint ddim yn gadarn o bell ffordd ond heb cweit ddilyn Ynys Mon...eto.

Hen ddraig said...

Annwyl Plaid Gwersyllt,

Nid oes unrhyw gynlluniau i uno unrhyw Ysgolion Cymraeg yn Sir y Fflint.

Nid oes unrhyw gynlluniau i dorri cyllidebau addysg.

Mae angen i gynyddu Ysgolion Cymraeg ar Lannau Dyfrdwy.

Bydd unrhyw siawns y byddwch yn gofyn i'r Cyngor am y gwirionedd ac yn cydnabod y gwir?