Dwi ddim yn siŵr iawn pwy sydd wedi codi gwrthwynebiad fod yr Eisteddfod ddim yn derbyn Coron gan ei bod wedi ei chyflwyno gan gyfrinfa Gogledd Cymru o'r Seiri Rhyddion a hefyd y wobr o £750. Y prif wrthwynebiad ydy fod y Seiri Rhyddion yn gweithredu yn gudd. Tydi pob grŵp hefo aelodau yn gweithredu yn gudd?; beth am bleidiau gwleidyddol? Tydi nhw ddim yn gweithredu yn agored ac yn datgelu ei chynlluniau i'r byd ar betws nad ydynt.
Fel un sydd wedi bod rhan o ymdrech Wrecsam i godi £300,000 tuag at y Steddfod, dydy o heb fod yn fater hawdd, a dwi'n siŵr fod llawer yn cytuno fod cyfraniad Cyfrinfa Gogledd Cymru o'r Seiri Rhyddion yn dderbyniol iawn a chan obeithio y byddent yn cario mlaen i gefnogi'r Steddfod sydd yn fudiad cynwysedig a ddim am gau neb allan oni bai fod yr arian yn dod o ffynhonnell anghyfreithlon.
Cyn i rywyn fy nghyhuddo o ffafrio Seiri Rhyddion hwyrach y dylwn ddatgan fy mod wedi bod yn aelod o'r Seiri Rhyddion ond wedi ymddiswyddo yn 1987, a does gen i ddim barn yr un ffordd neu'r llall ynglŷn â'i gweithgareddau digon diniwed.
0 comments:
Post a Comment