Friday, 30 September 2011

Wythnos ddigon tila!

Dwi'n siwr y bydd Now Gwynys, Seimon Glyn ar gweddill o be sydd ar ol o Lais Gwynedd yn falch o weld yr wythnos yma yn dod i ben, mae hi wedi bod yn wythnos gach go iawn. Ddoe, mi fethodd Llais ac ennill sedd oddi ar Plaid Cymru mewn is etholiad yn Penrhyndeudraeth ac yn gneud petha'n waeth fyth yn colli hen sedd Gwilym Euros yn Stiniog i Blaid Cymru sydd yn rhoi mwyafrif i'r Blaid ar Gyngor Gwynedd. Mae petha wedi taro'r gwaelod hefo y Cyngh Aeron M Jones, Llanwnda, yn cael ei wahardd o'r Cyngor am fis am torri côd ymddygiad y Cyngor drwy ddeud petha cas am Dyfed Edwards ar ei flog. Mae popeth yn digwydd mewn tri, be fydd nesa tybed

No comments: