Sunday, 16 October 2011

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (Rhan 2)

Yr ail ŵr gwadd i siarad yng Nghynhadledd Flynyddol Rhieni Dros Addysg Gymraeg oedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews a llongyfarchiadau iddo am areithio yn y Gymraeg ag hefyd ateb cwestiynau yn Gymraeg.

Prif themâu'r Gweinidog oedd rôl bwysig rhieni ond bod angen parchu'r gwahaniaeth ar amgylchedd lleol yn arbennig safonau a sefyllfa tlodi plant. Canmolodd y Gweinidog yr Awdurdodau Lleol hynny oedd wedi mesur y galw am addysg Gymraeg ac wedi cynllunio darpariaeth ond roedd yn feirniadol iawn o'r awdurdodau oedd heb ymateb i'r galw. Dywedodd y gweinidog ei fod am ddeddfwriaethu fel bod rhaid i Awdurdodau Lleol fesur y galw a chyhoeddi cynllun yn flynyddol ar sut y maent yn mynd i gyflawni'r ddarpariaeth Cymraeg yr ôl y galw. Fe gyhoeddir Papur Gwyn i'r perwyl yma.
Symudodd y Gweinidog ymlaen i son am safonnau a chydnabod fod cyrraedd safon boddhaol mewn llythrennedd yn fwy o sialens mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nag Ysgolion Saesneg ond fod ysgolion Cymraeg yn llwyddianus ar y cyfan. Cydnabu y Gweinidog hefyd fod cylchoedd Meithrin yn gweithio yn dda ond fod angen mwy o gydweithio rhwng y Mudiad ag ysgolion cynradd.

Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd bwysigrwydd 'normaleiddio' defnydd o'r iaith bob dydd a thu allan i'r dosbarth drwy hybu gweithgareddau Cymraeg i deuluoedd.

Gofynnwyd nifer o gwestiynau o'r Gweinidog ond y teimlad yn gyffredinol oedd am i ni gynnwys ein sylwadau a chwestiynau mewn ymateb i'r ymgynghoriad sydd mynd mlaen i'r strategaeth ac wedyn y Papur Gwyn.

Fel Keith Towler mae angen croesawu ymroddiad Leighton Andrews i wella pethau yn y sector Cymraeg fel bod dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael yr un tegwch a phawb arall.

4 comments:

C D said...

Y peth pwysig yw fod y llywodraeth yn cadw at eu gair ag yn darparu digon o arian at ehangu addsyg Cymraeg. Pwynt arall, pam ddim dechrau galw addysg cyfrwng Cymraeg yn addysg dwy-ieithog? Oherwydd dyna be ydy o. Mae pob un plentyn yn gadael ysgolion "Cymraeg" yn rhugl yn y ddwy iaith. Yn ysgolion saesneg dim ond uniaith. Felly be am ddechrau o hyn ymlaen galw ysgolion Cymraeg yn ysgolion dwy-ieithog. A chwarae teg i Leighton am dysgu'r iaith mor dda hefyd.

Plaid Gwersyllt said...

Fe godwyd sefyllfa Ysgolion yr 21C yn y cyfarfod, ymateb Leighton oedd fod y Con Dems yn Llundain wedi torri y gyllideb gyfalafol 40% a dyna fydd yr esgus. Gwnaeth y pwynt fod gan y llywodraeth ddim pwerau benthyca ond fod gan Awdurdodau Lleol, felly y disgwyl ydy i ALl ariannu 50% o gostau codi/trwsio pob ysgol newydd yng Nghymru ddim jest y rhain yn y sector Gymraeg.
Rhaid i fi anghytuno ar dy ddehongliad o Ysgol Gymraeg/Dwyiethog. Mae ysgolion Gwynedd/Mon/Ceredigion/Caerfyrddin i fod yn ddwyiethog...ydy nhw? Dwi ddim yn meddwl. Mewn ysgolion Cymraeg mae'y pynciau i gyd yn cael ei dysgu drwy gyfrwn y Gymraeg.

C D said...

Cytuno. Gobeithio wir fydd awdurdoau lleol ddim yn defnyddio y toriadau fel esgus i beidio ehangu addysg Cymraeg.

Efallai oni heb wneud fy hun yn glir, wrth gwrs addysg ysgolion Cymraeg yw'r gorau yng Nghymru, mae ystadegau yn dangos hynny yn glir. Yn anffodus mae rhai rhieni yn anwybodus o hynny. Be oni trio dweud oedd, yn ysgolion Cymraeg mae'r plant yn hollol ddwy-ieithog, yn ysgolion Saesneg (a rhai 'dwy-ieithog') mae rhan fwyaf yn gadael ysgol yn uniaith Saesneg, awgrym i oedd galw nhw fel y mae,(mae ysgolion sy cael eu galw yn 'dwy-ieithog' ar y funud ddim yn effeithiol).

Siôn said...

Cytuno â CD o ran ysgolion "dwys ieithog". Er bod cyfrwng yr addysg mewn ysgolion 'Cymraeg' ddwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yr holl disgyblion yn gadael yr ysgolion yn gwbl ddwyieithog. Bydd rhai sy'n derbyn addysg cyfrwng Saesneg gyda'r mymryn lleiaf o Gymraeg yn ffrind pobl uniaith Saesneg. Mae hyn yn wahaniaeth pwysig i'w neud pan ceir nicer o rieni sy'n pryderu bydd Saesneg disgyblion.yn diode o dderbyn addysg.cyfrwng.Cymraeg.