Saturday, 26 November 2011

Colledion Steddfod Wrecsam.

Dwi wedi peidio blogio ar y pwnc yma gan obeithio neith y tymer wella ond annhebyg ydy hynna o ddigwydd felly waeth i fi gael deud fy neud.

Yn gyntaf oll mae angen datgan siomedigaeth fod Steddfod arbennig o lwyddiannus fel Steddfod Wrecsam wedi gneud colled ariannol o £90,000, ac mae rhaid hefyd datgan fod y targed lleol o £300,000 ar targed noddi o dros £400,000 mwy neu lai wedi ei chyrraedd.

Y broblem hefo Steddfod Wrecsam fel nifer o Eisteddfodau diweddar ydy gormod o bethau ymlaen a dim digon o fobol i'w mynychu. Er enghraifft, roedd gan Faes B ddau lwyfan ym Mhrifysgol Glyndŵr, roedd gan Faes C lwyfan a gweithgareddau yn Ysgol Bryn Offa, roedd Theatr Bara Caws yng nghlwb RAFA ac roedd nosweithiau hynod lwyddiannus Cymdeithas yr Iaith yng nghlwb yr Orsedd Ganolog; ac ar ben hynny roedd Cyngherddau drudfawr yr Eisteddfod yn y Pafiliwn. Nawr, mi fues i mewn pedwar gweithgaredd yn y Pafiliwn, un yn Faes C a dau yn yr Orsaf Ganolog, ac ar wahân i'r Pafiliwn roedd popeth arall yn ddigon fforddiadwy.

Yr ail broblem ydw i'n weld ydy cost tocynnau am y cyngherddau nos; roedd tocynnau i'r Cyngerdd Agoriadol hefo'r Tri Thenor ar Cyngerdd Pop hefo Caryl tua £30 punt yr un, oedd tu hwnt i nifer o selogion y Steddfod ac oni bai fy mod yn teimlo dyletswydd i fynd fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith mae'n debyg faswn i wedi ffendio rhywle mwy fforddiadwy hefyd.

Yn drydydd mae cwestiwn mawr sydd wedi ei ofyn ers rai blynyddoedd rŵan, a hynny ydy, a yw artistiaid sydd yn perfformio yn ecsploetio'r Steddfod ar cynulleidfaoedd drwy drin yr ŵyl fel ryw fath o 'bonws Dolig ariannol? Er bod gen i ddim yn erbyn yr artistiaid gymerodd ran yn y Cyngerdd Pop roedd diffyg arweinyddiaeth, defnydd o gerddorfa ar ffurfioldeb yn ei neud yn gyngerdd diflas, difflach a heb fymryn o awyrgylch. Y teimlad cyffredinol oedd bod y cyngerdd yma i S4C ac i neb arall; mewn ffordd roedd y gynulleidfa yno i sybsideiddio S4C i neud rhaglenni.

Diddorol iawn fasa gwybod yn lle mae'r golled o £90,000 wedi dod o? Y teimlad cyffredinol ydy mai ffioedd afresymol o uchel i RAI artistiaid sydd yn gyfrifol.

Mae'r ateb i'r broblem yn ddigon syml yn fy marn i a hynny ydy rhoi gorau i'r cyngherddau uchel ail drudfawr (neu cael mwy o noddwyr i ariannu) a mynd yn ôl at ein gwreiddiau a chael gweithgareddau traddodiadol llai ei maint mewn lleoliadau lle gall cynulleidfaoedd fod yn rhan o'r gweithgareddau. Hefyd mae angen cadw be sy'n gweithio fel gigs Maes C ac mi ddylsa y Steddfod adael i Gymdeithas yr Iaith ail afael yn yr awenau a rhedeg gigs Maes B; allwn i ddim fforddio'r 'sbats' blynyddol yma!

Mae hi'n gwbl amlwg o'r trafferthion y cawsom wrth godi arian fod yna brinder yn gyffredinol a bod pobol yn gwario llai; hwyrach ei bod hi'n amser i'r Steddfod sylweddoli hynna ac yn arbennig artistiaid fwyaf drudfawr Cymru a lleihau ei disgwyliadau cyn iddynt brisio ei hunain allan o'r farchnad.

3 comments:

Alun Williams said...

Cytuno, mae angen llai o bethau fel all pobol fynd iddyn nhw. Drwg yw fod pethau ymlaen ar rhyn pryd. A roedd y cyngherddau nos ddim yn apelio, wedi dweud hynny oni a'r teulu wedi wir mwynhau yr wyl yn Wrecsam.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl dy fod di'n llygad dy le ar tâl rhai artistiaid. Ti ond angen llond llaw i fod yn codi o ddeutu £15k - £30k ac mae pob noson yn her ariannol fawr.

Dwi'n pryderi hefyd fod y Steddfod yn trefnu gormod o bethau ar y Maes. Dwi'm yn beio'r Steddfod ond mae'n golygu fod y dre lleol yn colli arian ac awyrgylch y Steddfod.

Dan Gling said...

How many people gained access to the Eisteddfod on the Sunday with free tickets so they could go to the morning religious service? These tickets are free because you can't charge for a church service without offending traditional chapel goers. Many (if not all) of these people will have remained on site for the rest of the day.
So are there any figures available for how many people gained free access to the Eisteddfod on that Sunday??