Sunday, 16 September 2012

Adroddiad Monitro yr Iaith Gymraeg.

Pob blwyddyn mae hi'n ofynnol ar bob Awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi adroddiad ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg sydd yn amlinnellu sut maent yn cydymffurfio a Chynllun Iaith Gymraeg y Cyngor.
Mae'n rhaid deud mae siomedig dros ben oedd adroddiad Cyngor Sir Wrecsam y flwyddyn yma drwy fethu cyrraedd saith or unarddeg targed a osodwyd. Mae hyn yn fwy siomedig fyth o gofio fod Leighton Andrews wedi dewis Wrecsam fel arbrawf ar gyfer Cynllun Trefi Dwyieithog yn dilyn llwyddiant Eisteddfod 2011.

Ymysg y prif fethiannau oedd methiant i fesur sgiliau Cymraeg gweithwyr y Cyngor ac i gynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg, ac i hyfforddi y gweithwyr yny sydd yn darparu gwasanaethau gwyneb yn wyneb. Mae hefyd son am gynyddu y nifer o swyddi lle mae'r Gymraeg yn anghenrheidiol a mae hynny i'w groesawu ond does yna ddim targed wedi ei osod i fesur hynny. Methiant arall mae'r adroddiad heb son am; yw'r methiant y Cyngor i ddarparu llefydd digonnol ar gyfer y galw am addysg Gymraeg gyda 12 o blant yn ardal y Rhos yn unig yn methu cael lle mewn ysgol Gymraeg o'i dewis y flwyddyn yma.

Dyma rai o ystadegau Cyngor Sir Wrecsam

1. Nifer 'hits' ar wefan y Cyngor 4,614 yn Gymraeg (1.3%) a 342,946 yn Saesneg.
2. Nifer o weithrediadau drwy y wefan, 8,506 yn Gymraeg (4.3%) a 271,723 yn Saesneg.
3. Nifer cyswllt gwyneb yng ngwyneb yn Galw Wrecsam, Cymraeg 37 (0.02%) a 224,421 yn Saesneg.
4. Hoffi tudalen Gymraeg Facebook y Cyngor 67 yn Gymraeg a 663 yn Saesneg.
5. Dilynnwyr trydar y Cyngor 124 yn Gymraeg a 3039 yn Saesneg.

Mae rhaid cofio hefyd nad yw yr ystadegau yma yn mesur y defnydd mewnol o'r Gymraeg, er engraifft dyda staff sydd yn ebostio yn Gymraeg yn fewnol ddim yn cael ei cyfrif sydd yn fethiant yn ei hun.

Ond hefyd mae angen annog gweithwyr y Cyngor i gydnabod ei sgiliau ac i ddefnyddio yr iaith; mae hefyd gwir angen annog y 14% o brewswylwyr y sir sydd yn siarad Cymraeg i ddefnyddio yr iaith.

Tybed beth yw'r sefyllfa gyda adroddiadau monitro gweddill awdurdodau lleol Cymru? Siwr fod rhai dipyn yn well a rhai yn waeth ond y cwestiwn mawr ydy; be mae'r Comisiynydd Iaith yn ei neud mewn ymateb i'r adroddiadau yma? Y cwestiwn arall ydy, faint o fobol sydd yn gwybod am yr adroddiadau yma a faint sydd yn eu darllen a faint o ymgyrchu sydd yn galw am welliannau sylweddol yn y gwasanaeth; 'chydig iawn yn fy mhrofiad i!





5 comments:

Cneifiwr said...

Siomedig iawn.

O ran Sir Gaerfyrddin caiff pawb sydd am ddarllen yr adroddiad blynyddol neges fel a ganlyn:

Access denied.

You do not have permission to perform this action or access this resource.

Dw i'n sôn am y wefan Gymraeg, wrth gwrs. Mae union yr un peth yn digwydd gyda'r fersiwn Saesneg, chwarae teg.

Plaid Gwersyllt said...

Gofynna amdano dan FOIA

Anonymous said...

Mae gan y Commisiynydd lawer o waith i'w wneud.

Anonymous said...

Mae wir angen annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael - mae twitter yn rhywbeth hawdd i bobl ei ddilyn a mond 140 character sydd i'r negeseuon.

Oes modd gwneud push drwy'r Menter Iaith etc?

Anonymous said...

0.02 %?