Tuesday, 30 October 2012

Swyddi Cymraeg



Mae na ambell i sylw wedi bod yn y wasg yn ddiweddar yn tynnu sylw at ddylanwad siaradwyr Cymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae yr honiadau fod siaradwyr Cymraeg hefo dylanwad anghyfartal i'w niferoedd yn codi yn eitha amal yn arbennig mewn blogiau fel Gogwatch a Glasnost a chan fobol fel Karl Francis.

Rai misoedd yn ol mi nes i geisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru (yn Gymraeg). Y ddau gwestiwn a ofynnwyd oedd:
  • Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd? 
  • Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol? 

Dyma'r arebion a dderbyniwyd:

Blaenau Gwent.
3952 fel ar 09.03.12
Dim ond 2 swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, fodd bynnag nid yw hyn yn cynnwys staff  seiliedig mewn ysgol.

Castell Nedd/Port Talbot.
Mae’r Cyngor yn cyflogi tua 8,570 o weithwyr, y mae 3,782 ohonynt yn gweithio mewn ysgolion. Data rhannol yn unig sydd gennym am nifer y swyddi lle mae’r “Gymraeg yn hanfodol”. Caiff pob swydd ei hadolygu wrth iddi ddod yn wag a bod angen recriwtio rhywun newydd.

Conwy
Faint o weithwyr sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor ar hyn o bryd – 2810 (dim ysgolion)
Faint o’r gweithwyr hynny sydd mewn swyddi Cymraeg hanfodol – 373 (dim ysgolion) 

Powys.
7, 721 - gweithwyr y mae'r cyngor yn eu cyflogi
Oherwydd y ffordd y byddwn yn cadw gwybodaeth am swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, ni allwn ddarparu gwybodaeth ynghylch nifer ein gweithwyr sydd mewn swyddi y mae'r Gymraeg yn hanofodol ar eu cyfer. 

Merthyr Tudful.
Mae’r Cyngor yn cyflogi 2,950 o weithwyr.
Yr unig swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol yw yn yr ysgolion Cymraeg (56 athro/athrawes a Chynorthwywyr Cynnal Dysgu), a’r Swyddog Yr Iaith Gymraeg

Casnewydd.
7,124 (pawb a gyflogir)
6,191 (heb gynnwys cyflogaeth achlysurol)
Mae 78 o swyddi yn gofyn am gymhwyster a/neu'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn yr iaith Gymraeg.
Mae'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn mewn ysgolion, naill ai fel athrawon Cymraeg neu fel staff mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Penybont ar Ogwr.
Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd.
6826
Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol.
137

Sir Gaerfyrddin.
Mewn ymateb i’ch cwestiwn cyntaf, mae’r Cyngor yn cyflogi 9,004 o weithwyr (25ain Mai, 2012)
Ar ôl ystyried eich ail gwestiwn yn ofalus, nid yw’n bosibl rhoi ymateb.  Wnâi rhoi esboniad paham isod.
Nid oes modd gael gafael ar y wybodaeth yn hawdd, er enghraifft drwy redeg adroddiad oddi ar system electronig, neu drwy gyfeirio at ddata coladedig
.
O ganlyniad, fe fyddai’n rhaid i ni gyfeirio at filoedd o broffiliau swydd unigol.  Gan fod dros naw mil o staff yn gweithio i’r Awdurdod (gan gynnwys athrawon), fe fyddai hwn yn dasg enfawr.  Os amcangyfrifir y byddai’n cymryd tua munud i ddod o hyd i bob proffil, edrych arno a chofnodi os yw’r Gymraeg yn angenrheidiol (naill ai’n ysgrifenedig neu lafar), ar amcangyfrif bras, fe fyddai’n cymryd dros gant o oriau i orffen y gwaith hwn. 

Caerdydd.
Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym (sef y wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym yn yr adroddiad monitro blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg) mae’r cyngor yn cyflogi 8013 aelod o staff (ac eithrio staff ysgolion, gweithwyr achlysurol a Caerdydd ar Waith).

Nodwyd ac aseswyd dros 700 o swyddi mewn gwasanaethau rheng-flaen yn 2010/2011 a dynodwyd bod y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer canran o’r swyddi hyn yn unol â’r rhwymedigaethau a wnaed yng nghyfnod cyntaf y broses o weithredu ein Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg, gyda lefel ofynnol o 10% yn y timau mawr, a hyd at gynifer ag sydd eu hangen ym mhob tîm penodol i warantu gwasanaeth dwyieithog yn y pwynt cyswllt cyntaf.

... Ar hyn o bryd mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer 63 o 775 o swyddi, sef 8.12%. Dynodwyd bod y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer 627 o’r swyddi a aseswyd, sy’n golygu bod gofyniad ieithyddol ar 89% o’r holl swyddi rheng-flaen a aseswyd hyd yma.

Gwynedd.
6,654 wedi eu cyflogi yn ystod mis Mai 2012
6,612 o weithwyr mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymareg yn “angenrheidiol”. Mae’r 42 sy’n weddill mewn swyddi tu allan i Wynedd sydd heb ddynodiad iaith, gan eu bod yn perthyn i’r Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n gweithredu fel Asiant i Gynghorau eraill yn ogystal â Cyngor Gwynedd.

Caerffili.
Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd. 9655

Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol. 432 (gyda 418 ohonynt yn athrawon o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg)

Ynys Mon.
Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd. =  3897
Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol. =  Nid yw’r wybodaeth yn cael ei ddal ar hyn o bryd (Rh 1 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth)  – rydym yn gweithio tuag at allu darparu’r fath wybodaeth yn y dyfodol.

Sir Benfro. 
6,237
 Nid yw’r wybodaeth ar gael. (Noder: I gasglu’r wybodaeth hon byddai angen dadansoddi pob disgrifiad swydd er mwyn penderfynu ar y rhai lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, ac ni allwn wneud hyn o fewn y terfynau amser mae’r ymholiad DRhG yn eu caniatáu).

Sir Fynwy.
Ar 1af Ebrill, y nifer o weithwyr a gyflogwyd gan y Cyngor yw 3061
Ar wahân i’n hysgolion Cymraeg, y nifer o swyddi sydd wedi ei dynodi fel bod yn Gymraeg yn angenrheidiol yw 1.  Mae gan ein hysgolion Cymraeg cyfanswm o 36 swydd lle mae Cymraeg yn angenrheidiol.

Sir Ddinbych.
Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd.  4616.

Nid ydym yn gallu casglu’r manylion penodol rydych wedi gofyn amdanynt, gan y byddai’n rhaid casglu’r data at ei gilydd â llaw o’n cofnodion. Rwyf wedi amcangyfrif y byddai’n costio mwy na’r terfyn priodol i wneud hyn. Mae’r terfyn wedi cael ei osod mewn rheoliadau, ac i’r Cyngor mae wedi’i osod ar £450. Dyma yn ôl yr amcangyfrif yw cost un person yn treulio 2½ diwrnod gwaith yn chwilio a yw’r Cyngor yn dal y wybodaeth hon, canfod lle mae’r wybodaeth a chael gafael arni. O ganlyniad, does dim dyletswydd ar y Cyngor o dan adran 12(1) (lle mae cost cydymffurfio yn mynd yn uwch na’r terfyn priodol) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i ymateb i’r rhan hon o’ch cais.

Torfaen.
Faint o weithwyr mae y Cyngor yn ei gyflogi ar hyn o bryd.  6340
Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi ei dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol.  Nid yw’r Cyngor wedi dechrau ar y darn yma o waith, ac bydd yn rhan o’r Arolwg Sgiliau Iaith Gymraeg.
 
Ceredigion.
2603
Mae’r Cyngor wedi newid I lefelau  ALTE , felly rydym fel Cyngor wedi newid dynodiad y Gymraeg o Hanfodol/dymunol i 5 lefel ALTE.   Yn anffodus nid yw’r Cyngor yn cofnodi nifer y swyddi gyda gwahanol lefelau ALTE. 

Wrecsam.
Yn Ebrill 2012, mae CBSW yn cyflogi 6,513 o bobl (4,957 FTE) 
13 (ddim yn cynnwys athrawon)

Er ei bod hi'n anodd cymharu yr awdurdodau mae hi'n amlwg mae chydig iawn o awdurdodau sydd yn cadw y wybodaeth ynglyn a swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, hefo'r mwyafrif yn cuddio tu ol i'r ddeddf. 
Mae methiant awdurdodau Cymraeg ei naws fel Sir Gar, Ceredigion, Ynys Mon a Sir Ddinbych i ddarparu y wybodaeth yma yn hynod siomedig. 

Mae gwir angen i'r Comisiynydd osod safonnau ar awdurdodau cyhoeddus i gario allan awdit o sgiliau iaith ac i benodi mwy o swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol. 

10 comments:

Anonymous said...

Cadarnhad unwaith eto mai Cyngor Gwynedd yw'r unig gyngor yng Nghymru sy'n cymryd yr iaith o ddifri.

Anonymous said...

Blog ardderchog. Ffordd gorau i ateb celwyddau ydi trwy ffeithiau. Da iawn chi Plaid Wrecsam.

Alwyn ap Huw said...

Post difyr iawn. Mae'n rhyfedd fod y wybodaeth ar gael ar flaenau bysedd ambell i gyngor ond yn amhosib cael hyd iddi gan gynghorau eraill. Rhaid derbyn ei fod yn haws i Gyngor Mynwy cofio'i un nag i Gyngor Dinbych cofio'i oll, ond byddwn yn tybied bod ieithwedd Dinbych a Chonwy yn weddol debyg ac os yw'n bosib i'r naill cael hyd i'r ffigyrau pam ei fod yn rhy anodd i'r llall? A fyddai'n hy i awgrymu bod gan Cynghorau Môn, Sir Gar, Ceredigion a Dinbych rhywbeth i'w guddio - sef methiant eu gwasanaethau Cymraeg?
Rwy'n cytuno 100% a dy sylw parthed yr angen i'r Comisiynydd Iaith mynnu awdit o sgiliau iaith mewn cyrff cyhoeddus, heb y fath awdit sut mae modd gwirio eu cynlluniau iaith?

Anonymous said...

"Desirable" yw'r Gymraeg yn y rhanfwyaf o swyddi a hysbysebir gan Gyngor Sir Gar, does dim ymrwymiad ganddynt at yr iaith o gwbl.

Anonymous said...

"Rwy'n cytuno 100% a dy sylw parthed yr angen i'r Comisiynydd Iaith mynnu awdit o sgiliau iaith mewn cyrff cyhoeddus,....."

Ydy hyn yn debygol i ddigwydd?

Hwn yw un o'r unig flogiau sy'n eiddo i gynrychiolydd unrhyw blaid rwy'n siwr o ddilyn. Mae rhywbeth perthnasol a practical yn perthyn iddo. Efallai achos eich bod wedi gwario blynyddoedd yn y byd real yw'r rheswm. Dalier ati.

Anonymous said...

Blog gwych yn dangos y sefyllfa'n glir. Byddai'n ddiddorol gwneud arolwg tebyg o'r grwpiau gweithredu sector wirfoddol sirol ( CVC's) sy'n cael eu cyllido o gronfeydd cyhoeddus i gynorthwyo'r sector wirfoddol-gwn bod un Powys yn cael cryn drafferth o gyfeiriad y Comisiynydd ar hyn o bryd oherwydd diffygion yn ei gweithgarwch.

Anonymous said...

Difyr iawn. Angen gwneud arolwg tebyg o'r Cynghorau Gweithredu Sirol Sector Wirfoddol. Mae ganddynt rol allweddol a dylanwadol iawn ar miloedd o fudiadau llai yn ein cymunedau

Anonymous said...

Mae angen gofyn i'r un cwestiynau i'r Byrddau Iechyd yng Nghymru.

Anonymous said...

Cytuno gyda'r sylw blaenorol - mae angen gofyn y cwestiwn wrth bob Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Nghymru. Mae angen dechrau gyda Gogledd Cymru.....ac mae angen , yn arbennig gofyn y cwestiwn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) - maent yn gorff ymbarel cenedlaethol gyda record drychinebus cyn belled ag mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn. Ga'i awgrymu eich bod yn dechrau gyda arolwg ieithyddol yn AVOW.........ar eich "patch" eich hun, fel petai !

Anonymous said...

Mae'r cynghorau gwirfoddol yn y de ddwyrain yn dweud nad oes neb yn gofyn am eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg..........rwan ta, dyma chi her.....ewch atynt i ofyn am gymorth, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg ! Gofynnwch am daflenni a newyddlenni dwyieithog... O leia wedyn, pan mae pobol fel fi yn dweud wrthynt nad ydynt yn gweithredu yn ddwyieithog fedran nhw ddim dod yn ol ataf a dweud "ond does neb byth yn gofyn am ddim byd Cymraeg wrthym".