tag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post7864200113971514136..comments2024-03-10T22:25:07.539+00:00Comments on Wrecsam.news: Blogio yn Gymraeg.Plaid Whitegatehttp://www.blogger.com/profile/05757898330400853732noreply@blogger.comBlogger7125tag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-56123386665298512832010-03-31T19:11:57.350+01:002010-03-31T19:11:57.350+01:00I fod yn onest dwi'n credu dylsai blogiau gwle...I fod yn onest dwi'n credu dylsai blogiau gwleidyddol fel hwn fod yn ddwyieithog fel arwydd o barch i'r ddwy iaith. Dwi'm yn credu bydd yn gelyniaethu unrhyw ddarllenwyr boed yn siaradwyr Cymraeg neu'n siaradwyr Saesneg cyn belled a'i fod yn glir bod y blog a'r blogiau yn ddwyieithog felly bod rhywun nad ydynt yn gallu deall Cymraeg ddim yn troi i ffwrdd heb ddeall. Does dim angen iddo fod yn gyfieithiad ond trafodaeth ar bynciau tebyg yn y ddwyiaith.

Dwi'n bryderus o ddefnyddio ffigwr fel 10% fel cyfiawnhad, petai'r Blaid Lafur e.e. a ellir dibynu arno'n Wrecsam i anwybyddu'r iaith ar eu deunydd etholiadol yn defnyddio'r esgus hwn yna bydd lle teilwng i'w beirniadu.

Yn anffodus mae'r Blaid yn genedlaethol yn euog o ymddangos yn rhy aml fel ei bod yn cymryd yr iaith a'i charedigion yn ganiataol e.e ar Facebook.

SiƓnAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-66203679883624734512010-03-31T16:35:32.712+01:002010-03-31T16:35:32.712+01:00'Dwi'n credu bod cynghorwyr (Plaid) Sir Ga...'Dwi'n credu bod cynghorwyr (Plaid) Sir Gaerfyrddin gyda dau flog - y naill yn y Saesneg a'r llall yn y Gymraeg.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-25427743091994948502010-03-31T15:23:35.155+01:002010-03-31T15:23:35.155+01:00Ond fel mae Efrogwr yn deud mae dwyiaethrwydd fwy ...Ond fel mae Efrogwr yn deud mae dwyiaethrwydd fwy i neud hefo ni yn cyfathrebu yn Saesneg, na'r di Gymraeg ymdrechu tuag at ddwyiaethrwydd. Os yda ni yn mynd i gario mlaen blogio yn Saesneg i blesio, does yna ddim pwrpas i ddwyiaethrwydd.Plaid Gwersyllthttps://www.blogger.com/profile/13986006252463873835noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-40193141531891742562010-03-31T13:01:30.174+01:002010-03-31T13:01:30.174+01:00Ie, mae ddwyieithrwydd yn gyffredinol yn bwnc ar w...Ie, mae ddwyieithrwydd yn gyffredinol yn bwnc ar wahan ac, wrth gwrs, yn un anodd ac dwi am un yn glir nad oes modd datblygu'r cysyniad o ddwyieithrwydd ehangach heb gefnogaeth ac yn wir brwdfrydedd trwch y boblogaeth i adfywio'r iaith. Wrth gwrs os nad ydy byd "go iawn" yr oedolion o ddifri ynghylch y Gymraeg go brin y gallwn ni ddisgwyl i ddisgyblion ysgol ac, yn wir, y gyfundren addysg fod. Ond ie, pwnc arall yw hwnna a fy mwynt am y tro yw rhaid meddwl bob tro beth yw oblygiadau'r syniad o ddwyieithrwydd a'r perygol i fywyd y diwylliant Cymraeg. Dyna'n union be' 'dych chi a Blog Menai'n ei wneud yng nghyd-destun y byd blogio a diolch am hynny!Efrogwrhttps://www.blogger.com/profile/08743089894656954100noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-79127618704842098602010-03-31T12:48:23.113+01:002010-03-31T12:48:23.113+01:00Diolch am y sylwadau ond paid a cychwyn fi ar y gy...Diolch am y sylwadau ond paid a cychwyn fi ar y gyfundrefn addysg!. Mae ysgolion cynradd sector Saesneg yn gneud yn dda iawn y Gymraeg ond unwaith eith y plant i Ysgol Uwchradd KS3 mae faint bynnag o Gymraeg mae'n nhw wedi ei ddysgu yn y cynradd wedi ei golli bron i gyd. Dyma lle mae'r broblem.Plaid Gwersyllthttps://www.blogger.com/profile/13986006252463873835noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-75762146408033520262010-03-31T12:47:00.264+01:002010-03-31T12:47:00.264+01:00Mae hwn yn bwnc uffernol o anodd, yn enwedig mewn ...Mae hwn yn bwnc uffernol o anodd, yn enwedig mewn ardal lle does na ddim 10% yn siarad Cymraeg yn rhugl (a llai yn ei ddarllen fyswn i'n tybio).
Mae blogio yn wahanol i ddwyieithrwydd "swyddogol" - mympwy ydio. Mae'r blog yma'n euog weithiau o mond trafod materion Cymraeg yn y Gymraeg, fel tysa'r iaith i'w gadw jest i drafod materion diwylliannol. Dydi hyn ddim yn deg ar y di-Gymraeg, sydd efallai am gyfrannu i drafodaethau am ysgolion Cymraeg ac ati.
Y peth calla' fysa blog Cymraeg a blog Saesneg yn trafod gwahanol bethau yn hytrach na chyfieithu slafaidd. Ond sgen i ddim amser i wneud hyn yn iawn!
Y peryg wedyn ydi mai'r Saesneg sy'n cael y blaenoriaeth gan fod cymaint yn fwy o bobol Wrecsam am ddarllen hwnna.
Does na'm ateb neith blesio pawb efo hwn.Plaid Whitegatehttps://www.blogger.com/profile/05757898330400853732noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-691671699575405507.post-88969272740863617962010-03-31T12:34:15.186+01:002010-03-31T12:34:15.186+01:00Ie, pwyntiau teg gan Flog Menai a diolch i chi am ...Ie, pwyntiau teg gan Flog Menai a diolch i chi am ymateb i'r sylwadau. Rwyf innau'n gytuno: pa ddiben bodolaeth y Gymraeg os ydy popeth a ddigwydd trwy ei chyfrwng dim ond yn gyfieithiad (wael yn aml iawn) o'r Saesneg?
Ar lefel mwy sylfaenol, dwi'n credu bod angen edrych ar y syniad o beth yw "Cymru Ddwyieithog". Dwi'n meddwl ei bod hi'n cael ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi penderfyniadau anodd a ffordd o beidio ag ypsetio siaradwyr uniaith Saesneg (h.y.: rhaid i Gymry Cymraeg fod yn ddwyieithog ond mae hi'n iawn i siaradwyr Saesneg anghofio am y Gymraeg - a hyd yn oed iddynt danseilio'r Gymraeg trwy fynnu dwyieithrwydd yn yr ychydig pentrefi lle mae hi yw'r brif iaith o hyd). Beth am anelu at fath arall o Gymru Ddwyieithog: lle mae disgwyl i bawb - fel mater o ddyletswydd sifil - fedru ar ddigon o Gymraeg i allu defnyddio'r iaith mewn sefyllfeydd pob dydd? Ni ddylai hynny ddim fod tu hwnt i gyrraedd ein cyfundrefn addysg dros cyfnod o, dyweder, 10 mlynedd.Efrogwrhttps://www.blogger.com/profile/08743089894656954100noreply@blogger.com